Canolfan Iaith Caer Elen

Lleolir Canolfan Iaith Caer Elen ar gampws Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd ac mae’n gwasanaethu disgyblion sydd wedi trosglwyddo i’r ysgol ac ysgolion cyfagos. Gyda sefydlu ysgol Gymraeg newydd 3-16 oed yn Hwlffordd ym mis Medi 2018, agorwyd Canolfan Iaith Caer Elen. Sefydlwyd Ysgol Caer Elen er mwyn ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn ne Sir Benfro. Mae’r Ganolfan Iaith wedi chwarae rhan allweddol yn nhwf a gweithgarwch yr ysgol o’r dechrau’n deg gan gynnig ymyrraeth ieithyddol i ddisgyblion wrth iddynt drosglwyddo o’r sector addysg Saesneg i addysg Gymraeg. Yn y ganolfan, mewn awyrgylch gyfeillgar a chefnogol, mae plant o oedran a gallu ieithyddol tebyg, o nifer o ysgolion cynradd lleol, yn dod at ei gilydd ar gyfer cyrsiau Cymraeg.

Caer Elen Character flipped

CANOLFAN IAITH CAER ELEN
Ysgol Caer Elen

Ffordd Llwynhelyg

Hwlffordd

Sir Benfro

SA62 4BN

Rhif ffôn: 01437 808470

E-bost: [email protected]/   [email protected] 

Ysgolion sy’n mynychu Canolfan Iaith Caer Elen

  • Ysgol Caer Elen
  • Ysgol Gelli Aur

Miss S.Thomas

Athrawes y ganolfan

Mrs N.Rees

Athrawes y ganolfan

Cyrsiau Canolfan Iaith Caer Elen

Mae darpariaeth y Ganolfan Iaith yn cynnwys y cyrsiau canlynol:

Cwrs Hwyrddyfodiaid i blant cynradd

Ffocws y cwrs deuddydd hwn yn bennaf yw i gynnig ymyrraeth ddwys i’r disgyblion trwy ddulliau trochi iaith gyda’r elfen o hybu sgiliau llafaredd yn flaenoriaeth. Yn ystod y flwyddyn gyntaf hon caiff y disgyblion eu cyflwyno i eirfa a phatrymau sy’n allweddol i’w galluogi i gyfathrebu’n hyderus ar lafar ac i gael mynediad lawn at eu haddysg yn y ffrwd Gymraeg.

Cwrs Dilyniant i blant cynradd

Yn ystod ail flwyddyn y cwrs, ar y cwrs undydd yma, adeiladir ar y sylfaen o sgiliau mae’r disgyblion yn eu caffael yn y flwyddyn gyntaf gan dalu sylw cynyddol i hybu sgiliau llythrennedd ymhellach trwy ddarllen ehangach ac ysgrifennu estynedig.

Pontio

Yn ogystal â chyrsiau’r Hwyrddyfodiaid, mae’r ganolfan yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion cynradd lleol a disgyblion Blwyddyn 6 a fydd yn parhau gyda'u haddysg yn Ysgol Caer Elen yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4.

Character poses 01 CAER ELEN

Cyn-ddisgyblion Canolfan Iaith Caer Elen

Dewch i gwrdd â rhai o gyn-ddisgyblion y ganolfan a chlywed am eu profiad.

Character poses 02 CAER ELEN

Daisy

Yn fy marn i, mae’r Ganolfan Iaith yn wych oherwydd pan ddechreuais i ym mlwyddyn 5, nid oedd gen i lawer o Gymraeg o gwbl. Erbyn heddiw, gallaf gyfathrebu yn rhugl gyda’r athrawon a fy ffrindiau a dw i hefyd yn rhan o setiau uchaf y flwyddyn. Teimlaf yn hyderus i dreiglo a defnyddio idiomau yn fy ngwaith. Mae’r Ganolfan Iaith wedi galluogi mi i gwrdd â phlant o ysgolion gwahanol ac i ddatblygu fy sgiliau gwaith grŵp. Y peth gorau am y Ganolfan Iaith oedd y tripiau, fel y daith i’r Senedd; yr athrawon angerddol a’r gweithgareddau hwyl! 

Character poses 05 BRO GWAUN

Finley

Dw i’n credu’n gryf iawn bod y Ganolfan Iaith yn lle wych i blentyn fel fi i ddatblygu. Plentyn a daeth i ysgol Gymraeg o ysgol Saesneg. Roedd yn siawns ffantastig i gael brofiad newydd ac i wella fy nghyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Mae’r Ganolfan Iaith wedi helpu fi llawer yn fwy na beth oeddwn i wedi disgwyl. Roeddwn i wedi mynd o siarad un neu ddau frawddeg syml i gyfathrebu’n hyderus iawn mewn llai na ddwy flwyddyn! Fy hoff beth am y Ganolfan Iaith oedd yr athrawon gwych a’r teithiau amrywiol. Rhoiodd y daith i’r Senedd y cyfle i mi gyfweld a Eluned Morgan. Roedd yn brofiad ardderchog.  

Character poses 08 BRO PRESELI

Robbie

Heb Mrs Rees, fy athrawes yn y Ganolfan Iaith, na fyddwn i fyth wedi cyrraedd y pwynt lle ydw i nawr. Roedd dysgu Cymraeg yn brofiad bythgofiadwy oherwydd ces i adeg mor hwyl yn dysgu iaith newydd. Cyn ddod i’r ysgol, doeddwn i ddim yn gallu siarad gair yn Gymraes a wnes i wir meddwl roedd e’n amhosib i ddysgu sut gymaint o eiriau newydd. Yn fy marn i, dydych chi ddim yn gallu dysgu rhywbeth newydd os nad ydych chi’n ei fwynhau. Erbyn heddiw, dw i’n set un yn Gymraeg ac yn gallu siarad yn rhugl gyda phawb yng Nghymru. Mae’r Ganolfan Iaith yn dangos eich bod chi’n gallu cysylltu dysgu iaith newydd gyda chael hwyl yn eich gwersi. Y peth gorau am y brofiad oedd mynd ar daith i Wickedly Welsh a dod nol i’r ysgol gyda pitsa siocled enfawr. Roeddwn i wir yn drist i adael y Ganolfan Iaith.

iPad, computer and phone preview of websites

Dolenni defnyddiol

Gwefan Ysgol Caer Elen - Gwefan: https://ysgolcaerelen.cymru

Fideos: https://youtu.be/gsCyZaOtC_0 (Ein hysgol)

https://youtu.be/K_QETCH9I-U (Taith rhithiol - Cymraeg)

https://youtu.be/cWwYCQY_qYs (Taith rhithiol - Saesneg)