Manteision Dysgu Cymraeg
Mae’r Gymraeg yn un o drysorau Cymru ac mae’n rhan o’r hyn sy’n ein diffinio fel pobl ac fel cenedl.
Mae dwyieithrwydd yn debygol o effeithio ar weddill bywydau’ch plant ... Mae’n debygol o effeithio ar
- hunaniaeth plentyn,
- rhwydweithiau o ffrindiau a chyfoedion,
- addysg,
- cyflogaeth,
- priodas,
- yr ardal y dewisir byw ynddi,
- teithio
- ffordd o feddwl neu agwedd
Mae’r gallu i siarad a newid rhwng ieithoedd yn gallu rhoi hwb i blentyn mewn cymaint o ffyrdd.
- Mae dwyieithrwydd yn cryfhau galluoedd gwybyddol
- Mae pobl ddwyieithog yn tueddu i fod yn fwy creadigol a hyblyg
- Gall pobl ddwyieithog fod â meddwl mwy agored
- Mae pobl ddwyieithog yn ei chael yn haws canolbwyntio ar amrywiaeth o dasgau'r un pryd
Mae gallu newid yn naturiol rhwng ieithoedd yn gwneud i blant deimlo’n dda amdanynt hwy eu hunain a’u galluoedd ac yn codi eu hunan-fri. Wrth ddysgu unrhyw iaith, mae pobl ifanc yn cymysgu geiriau ac yn arbrofi â hwy – nid yw hyn yn golygu eu bod yn ddryslyd; mae’n rhan annatod o ddysgu.
Ehangu Eu Gorwelion
- Gallant fwynhau diwylliant cyfoethog sy’n rhan o’n treftadaeth fyw gydag ystod o wyliau megis yr eisteddfodau.
- Gallant ddarganfod llenyddiaeth Gymraeg enwog gan awduron ysbrydoledig
- Byddant yn gallu darllen ac ysgrifennu mewn dwy iaith i ollwng y ffrwyn ar eu dychymyg a’u creadigrwydd
- Gallant fwynhau ystod lawn o raglenni teledu a’r cynnwys lliwgar a gynhyrchir yn arbennig ar gyfer plant gan S4C.
- Gallant fod yn rhan o fywyd cymunedol cyfoethog gan fwynhau llu o weithgareddau yn Gymraeg, o wneud ffrindiau ar gae rygbi i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel rhan o glwb.
- Gallant ddarganfod y sîn roc Gymraeg fywiog gyda cherddoriaeth anhygoel i’w mwynhau.
- Byddant yn cael profiad diwylliannol ehangach a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth ehangach am wahaniaethau rhwng ffyrdd o fyw a goddefgarwch tuag at ddiwylliannau eraill