Canolfan Iaith Bro Preseli
Lleolir Canolfan Iaith Bro Preseli ym mhentref Crymych yng nghysgod Mynyddoedd y Preseli. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli ar gampws Ysgol Uwchradd Bro Preseli ac mae’n gwasanaethu’r ysgolion cynradd yn nheulu ysgolion y clwstwr. Agorwyd y Ganolfan ym Mis Medi 1985, er mwyn cynorthwyo newydd ddyfodiaid di-Gymraeg yr ardal i ymgynefino gyda'r Gymraeg yn gyflym. Yn y ganolfan, mewn awyrgylch gyfeillgar a chefnogol, mae plant o oedran a gallu ieithyddol tebyg, o nifer o ysgolion cynradd lleol, yn dod at ei gilydd ar gyfer cyrsiau Cymraeg.
CANOLFAN IAITH BRO PRESELI
Ysgol Bro Preseli
Crymych
Sir Benfro
SA41 3QH
Rhif Ffôn: (01239) 831000
E-bost: [email protected]
Ysgolion sy’n mynychu Canolfan Iaith Bro Preseli
- Ysgol Bro Preseli
- Ysgol Brynconin
- Ysgol Cilgerran
- Ysgol Clydau
- Ysgol Eglwyswrw
- Ysgol Maenclochog
- Ysgol Llandudoch
- Ysgol Hafan y Môr
Cyrsiau Canolfan Iaith Bro Preseli
Mae darpariaeth y Ganolfan Iaith yn cynnwys y cyrsiau canlynol:
Cwrs Hwyrddyfodiaid i blant cynradd
Ffocws y cwrs deuddydd hwn yn bennaf yw i gynnig ymyrraeth ddwys i’r disgyblion trwy ddulliau trochi iaith gyda’r elfen o hybu sgiliau llafaredd yn flaenoriaeth. Yn ystod y flwyddyn gyntaf hon caiff y disgyblion eu cyflwyno i eirfa a phatrymau sy’n allweddol i’w galluogi i gyfathrebu’n hyderus ar lafar ac i gael mynediad lawn at eu haddysg yn y ffrwd Gymraeg.
Cwrs Dilyniant i blant cynradd
Yn ystod ail flwyddyn y cwrs, ar y cwrs undydd yma, adeiladir ar y sylfaen o sgiliau mae’r disgyblion yn eu caffael yn y flwyddyn gyntaf gan dalu sylw cynyddol i hybu sgiliau llythrennedd ymhellach trwy ddarllen ehangach ac ysgrifennu estynedig. Yn ystod y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn, mae staff y Ganolfan Iaith yn ymweld ag ysgolion yr hwyrddyfodiaid ar sail ail-gymorth pan fo angen.
Cwrs Croeso
Yn ogystal â chyrsiau’r Hwyrddyfodiaid, cynhelir y cwrs pontio ‘Cwrs Croeso' ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 a fydd yn parhau gyda'u haddysg yn Ysgol Bro Preseli yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4.
Cyn-ddisgyblion Canolfan Iaith Bro Preseli
Dewch i gwrdd â rhai o gyn-ddisgyblion y ganolfan a chlywed am eu profiad.
Carys
Credaf fod y Ganolfan Iaith wedi bod yn gymorth anhygoel i mi pan oeddwn yn dysgu Cymraeg. Roedd yr athrawon yn garedig iawn ac wedi fy helpu pan oeddwn yn cael trafferth. Ers i mi adael y Ganolfan Iaith rwyf wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau Cymraeg gan gynnwys ennill cystadleuaeth genedlaethol cwis llyfrau gyda fy ysgol. Mae llawer o lyfrau, posteri a lluniau o gwmpas y Ganolfan Iaith sydd hefyd wedi bod o gymorth mawr i mi wrth siarad a deall Cymraeg. I ddweud y gwir, dw i’n credu mai’r Ganolfan Iaith yw’r lle gorau i anfon eich plentyn os ydych am iddynt ddysgu Cymraeg yn rhugl ac iddynt fwynhau’r antur o ddysgu iaith newydd. Yn y Ganolfan dysgais Gymraeg trwy ddulliau llafar, rhyngweithiol a chreadigol. Mae’n bwysig cefnogi’r Gymraeg ac mae wedi rhoi llawer mwy o gyfleoedd i mi. Dw i nawr yn parhau gyda fy astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ysgol Bro Preseli ar ol dysgu Cymraeg.
Dolenni defnyddiol
Gwefan Ysgol Bro Preseli - https://ysgolbropreseli.cymru/
Fideo rhithiol Ysgol Bro Preseli - https://www.youtube.com/watch?v=LtGiHlUugQs