Apiau

Mae llwyth o apiau y gallwch chi eu lawrlwytho am ddim! Dyma rai o hoff apiau plant y ganolfan iaith.

Character poses 07 BRO PRESELI
S4C Clic

S4C Clic

Sianel deledu yw S4C sy’n darlledu rhaglenni trwy gyfrwng y Gymraeg. Lawrlwythwch yr ap yma am ddim er mwyn:

- Gwylio eich hoff raglenni yn fyw neu ar alw a phori trwy amserlen S4C.

- Gwylio rhaglenni Cyw, y gwasanaeth i blant meithrin, yn fyw ac ar alw.

Cymru FM

Cymru FM

Mae Cymru FM yn blatfform radio sydd yn darlledu 24/7. Mae modd i chi rannu, hyrwyddo a darlledu rhaglenni radio. Erbyn hyn ry'ch chi'n gallu gwrando ar Cymru FM yn fyw tra'n teithio a gwrando eto ar raglenni sydd eisioes wedi eu darlledu. Hefyd, mae modd i chi nawr recordio negeseuon ar eich ffôn.

Ap Geiriaduron

Ap Geiriaduron

Mae’r Ap Geiriaduron yn cynnwys y geiriadur cyffredinol Cysgair, a hefyd y geiriaduron termau safonol ar gyfer ysgolion a cholegau addysg bellach Cymru, Y Termiadur Addysg. ac ar gyfer prifysgolion Cymru,

Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r geiriaduron hyn i gyd yn rhai Saesneg-Cymraeg/Cymraeg Saesneg all-lein lle nad oes arnoch angen cyswllt gwe i’w defnyddio.

SABA - Heliwr y Geiriau

SABA - Heliwr y Geiriau

Allwch chi helpu Saba i gasglu’r geiriau cywir ar bob ynys?


Mae gan Saba ddeg o ynysoedd i ymweld â nhw, ac mae pob ynys yn cynrychioli rheol sillafu wahanol. Pob lwc!


Creuir yr ap yma i ddysgu sut i sillafu, a chael hwyl ar yr un pryd.

Ap Iaith

Ap Iaith

Croeso i barc thema 'Ap Iaith' lle gallwch ddatblygu a meistroli eich sgiliau Cymraeg yng nghyfnod allweddol 2 a 3 i ddod yn ddysgwr Cymraeg hyderus ac uchelgeisiol.

Campau Cosmig 2

Campau Cosmig 2

Cyfres o dros chwedeg o gemau yn Gymraeg wedi eu datblygu i ddysgu a gwella geirfa Cymraeg. Dilyniant i Campau Cosmig.

Campau Cosmig

Campau Cosmig

Cyfres o dros chwedeg o gemau yn Gymraeg wedi eu datblygu i ddysgu a gwella geirfa Cymraeg.

Hoff Llyfrau Selog

Hoff Llyfrau Selog

Ap gan Menter Iaith Môn: 14 o hoff lyfrau Cymraeg Selog. Cyfresi Rwdlan ac Alun Arth. Adnodd gwrando gwych i gefnogi dysgwyr a darllenwyr ifanc.

Ioga Selog

Ioga Selog

Ap Menter Iaith Môn: 14 mwy o ganeuon Cymraeg hwyliog Selog.

Mae ioga gyda phlant werth y byd i’w datblygiad corfforol ac i sefydlu arferion cadw’n iach yn y teulu. Mae’r cyflwyniad Cymraeg gan Leisa Mererid yn cynorthwyo’r plentyn i ddysgu geirfa addysg gorfforol. Gall rhieni di-Gymraeg ddefnyddio’r ap er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’w plentyn fod yn ddwyieithog / amlieithog. Mae’r ap yn addas i ysgolion a grwpiau cymunedol hefyd.

Canu Selog 2

Canu Selog 2

Mae canu gyda phlant werth y byd i’w datblygiad er mwyn meithrin clust am iaith. Mae’r odl a’r rhythm yn cynorthwyo’r plentyn wrth ddysgu ynganu synau a geiriau, sgiliau bydd yn eu tro yn cefnogi’r plentyn wrthddarllen. Gall rhieni di-Gymraeg ddefnyddio’r ap er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’w plentyn fod yn ddwyieithog / amlieithog. Caneuon addas i ysgolion a grwpiau cymunedol hefyd.

Hoff Ganeuon Selog

Hoff Ganeuon Selog

Ap Menter Iaith Môn: 14 o hoff ganeuon Cymraeg Selog #1. Adnodd gwych i blant ifanc a dysgwyr.

Mae canu gyda phlant werth y byd i’w datblygiad er mwyn meithrin clust am iaith. Mae’r odl a’r rhythm yn cynorthwyo’r plentyn wrth ddysgu ynganu synau a geiriau, sgiliau bydd yn eu tro yn cefnogi’r plentyn wrthddarllen. Gall rhieni di-Gymraeg ddefnyddio’r ap er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’w plentyn fod yn ddwyieithog / amlieithog

Aur am Air

Aur am Air

Ap cyffrous deniadol o weithgareddau a gemau rhyngweithiol i gefnogi sgiliau sillafu yn y Gymraeg o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4.

Adnodd deniadol sy'n hybu dysgu annibynnol plant a phobl ifanc gan gefnogi'r iaith Gymraeg yn yr ysgol ac ar yr aelwyd gartref.

Sillafu Iaith Gyntaf

Sillafu Iaith Gyntaf

Amcan yr ap iaith Llythrennedd - Sillafu yw i ti gwblhau cymaint o eiriau ag sy’n bosibl, cyn i'r amser dy guro.

Mae yna dair gêm wahanol sef Beth yw’r lluosog?, Beth yw’r gair croes? a Gwrando. O fewn pob gêm mae tair haen sydd wedi’u graddio.

Rwyt ti’n cwblhau geiriau trwy glicio ar y llythrennau ar waelod y dudalen a bydd y llythyren yn symud i’r bocs coch. Mae clicio llythyren yn y bocs yn symud hi yn ôl i waelod y dudalen.

Am bob gair cywir, rwyt ti’n ennill pwyntiau. Os bydd gair yn anghywir byddi di’n colli pwyntiau.

Ar ôl i air gael ei gwblhau yn gywir fe fydd 'tic' yn ymddangos ger yr ateb. Bydd y cwestiwn nesaf yn ymddangos yn awtomatig.

Mae’n rhaid cael chwech allan o ddeg yn gywir i agor yr haen nesaf - dyma sut mae’n bosibl symud ymlaen i haen 2 ac yna i haen 3.

Yn ychwanegol i'r bonws am gwblhau’r gair rwyt ti’n cael bonws amser os wyt yn cwblhau'r deg cwestiwn o fewn yr amser.

Mae’r botwm seren oren ar ochr chwith y gêm yn rhoi help i ti ond byddi di’n colli pwyntiau wrth ei ddefnyddio.

Ar ddiwedd y gêm, os wyt ti wedi ennill digon o bwyntiau fe fydd dy sgôr i’w weld ar y sgôrfwrdd.

Anagramau

Anagramau

Amcan yr Ap iaith Llythrennedd – Anagramau yw i ti gwblhau cymaint o eiriau ag sy’n bosibl, cyn i'r amser dy guro.

Mae yna bedair gêm wahanol sef Llenwch y bylchau; Atebwch y cwestiynau; Beth yw’r gair? a Diffiniad geiriadur. O fewn pob gêm mae tair haen sydd wedi’u graddio.

Rwyt ti’n cwblhau geiriau trwy glicio ar y llythrennau ar waelod y dudalen a bydd y llythyren yn symud i’r bocs coch. Mae clicio llythyren yn y bocs yn symud hi’n ôl i waelod y dudalen.

Am bob gair cywir, rwyt ti’n ennill pwyntiau. Os bydd gair yn anghywir byddi di’n colli pwyntiau.

Ar ôl i air gael ei gwblhau yn gywir fe fydd 'tic' yn ymddangos ger yr ateb. Bydd y cwestiwn nesaf yn ymddangos yn awtomatig.

Mae’n rhaid cael chwech allan o ddeg yn gywir i agor yr haen nesaf – dyma sut mae’n bosibl symud ymlaen i haen 2 ac yna i haen 3.

Yn ychwanegol i'r bonws am gwblhau’r gair rwyt ti’n cael bonws amser os wyt yn cwblhau'r deg cwestiwn o fewn yr amser.

Mae’r botwm seren oren ar ochr chwith y gêm yn rhoi help i ti ond byddi di’n colli pwyntiau wrth ei ddefnyddio.

Ar ddiwedd y gêm, os wyt ti wedi ennill digon o bwyntiau fe fyddi di’n ymddangos ar y sgôrfwrdd.

Botio

Botio

Allwch chi helpu BOT i chwilota’r gofod am blanedau newydd drwy ei raglennu?


Can you help BOT to explore the galaxy and discover new planets by programming it?


Mae hi'n 2065, ac mae gan bob catref "BOT".


Robotiaid clyfar sy'n helpu'r teulu gyda thasgau dydd-i-ddydd yw'r BOTiaid. Ond, cyn iddyn nhw gwblhau tasg, mae'n rhaid i'r teulu eu rhaglennu nhw. Gelwir hyn yn "BOTio".


Ond, mae'r BOT yma AR GOLL. Mae ar goll yn y gofod a does neb i'w raglennu! Druan bach.


Roedd BOT yn joio gwyliau yn y gofod gyda’i deulu, ond digwyddodd rhywbeth ofnadwy. Aeth ei deulu yn ôl i’r Ddaear hebddo – arswyd y gofod!


Tybed allwch chi helpu BOT i chwilota’r gofod am blanedau newydd ac od, drwy ei raglennu?


Mae 10 o blanedau i'w chwilota, ac mae 5 ardal o fewn pob planed. Tipyn o dasg.


Pob lwc!