Dysgu cymraeg

Dysgu Cymraeg

Beth am ddysgu Cymraeg hefyd?

Mae dysgu Cymraeg ar yr un adeg a’ch plentyn yn gyfle gwych i ddysgu gyda’ch gilydd, i ymarfer eich sgiliau iaith ar eich gilydd a threulio amser gwerth chweil gyda’ch gilydd. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol yn darparu amryw o gyrsiau ledled Sir Benfro. Mae dosbarthiadau a digwyddiadau i ddysgwyr ar gyfer pob lefel ar draws y sir. Gallwch fynychu cyrsiau wyneb i wyneb lleol gyda’r dydd neu gyda’r nos neu ymuno a chwrs rhithiol. Bydd y tiwtoriaid cyfeillgar yn eich helpu i ddysgu’r iaith a bydd digon o hwyl wrth ddysgu!

Dysgu Cymraeg Sir Benfro

01437 770180

[email protected]

https://dysgucymraeg.cymru/amdanom-ni/darparwyr-cyrsiau/dysgu-cymraeg-sir-benfro/

Dysgu Cymraeg ar y ffordd!

Mae sawl opsiwn i ymarfer eich sgiliau Cymraeg ar eich ffôn symudol hefyd gan ddefnyddio apiau dysgu megis DuoLingo neu gyrsiau ar-lein fel Say Something In Welsh.

Mae Duolingo yn hyrwyddo dysgu iaith trwy brofiadau tebyg i gêm ac mae'n ffordd boblogaidd o ddysgu Cymraeg yn anffurfiol.

Gwefan

Ap (Apple)


Duolingo
Saysomething

Say Something in Welsh

Mae SaySomethingInWelsh yn gwrs ar-lein yn rhad ac am ddim sy'n canolbwyntio ar helpu pobl i ddysgu siarad a deall Cymraeg. Mae'n osgoi rheolau gramadeg cymhleth a darllen / ysgrifennu.