Y Gymraeg Yng Nghymru

Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’n diwylliant, ein treftadaeth a’n bywydau beunyddiol. Mae’n rhan o’n hetifeddiaeth gyffredin ac ein hunaniaeth fel cenedl.

Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Y flwyddyn 2050: Mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu, mae nifer y siaradwyr wedi cynyddu i filiwn a chaiff ei defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd. Ymhlith y rheini nad ydynt yn ei siarad mae yna ewyllys da tuag ati ac ymdeimlad o berchnogaeth ohoni. Mae yna werthfawrogiad hefyd o’i chyfraniad i ddiwylliant, cymdeithas ac economi Cymru.

Dyma weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg yng Nghymru. Y weledigaeth, erbyn 2050, yw gweld miliwn o siaradwyr yn defnyddio’r iaith ym mhob agwedd ar eu bywydau a dyblu’r ganran o bobl yng Nghymru sy’n siarad ac yn defnyddio’r iaith bob dydd.