Dathliadau Cymru

Character poses 04 BRO GWAUN

Mae sawl diwrnod ac achlysur pwysig yn cael eu dathlu’n flynyddol yng Nghymru. Dyma wybodaeth am rai ohonynt:

Ionawr 1
01 ionawr 1 mari llwyd shutterstock 2060993114 compressed

Y Flwyddyn Newydd

Plant yn mynd o dŷ i dŷ yn canu 'Blwyddyn Newydd Dda er mwyn cael calennig. Y Fari Lwyd. Penglog ceffyl yn cael ei gario o dŷ i dŷ a dynion yn diddanu'r teulu.

Ionawr 25
01 ionawr 25 st dwynwen shutterstock 1944345460 compressed

Diwrnod Santes Dwynwen

Ystyrir ei fod yn gyfatebol â Dydd Sant Ffolant. Santes Dwynwen yw nawddsant cariadon Cymru.

Chwefror
02 chwefror WLMD Logo Exported at h110

Dydd Miwisg Cymru

Mae Dydd Miwsig Cymru yn dathlu pob math o gerddoriaeth Iaith Gymraeg.

Mawrth 1
03 march 1 st davids shutterstock 25344658 compressed

Dydd Gwyl Dewi

Dewi Sant yw nawddsant Cymru ac mae'n cael ei ddathlu ar Fawrth y 1af.

Mai / Mehefin
Urdd

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

Gŵyl gystadleuol yw’r Eisteddfod gyda dros 15,000 o blant a phobl ifanc o dan 25 oed yn cystadlu bob blwyddyn mewn cystadlaethau megis canu, dawnsio a pherfformio. Rhain yw’r gorau o tua 40,000 o gystadleuwyr ledled Cymru sydd wedi ennill eu lle yn y Genedlaethol yn dilyn Eisteddfodau Cylch a Rhanbarthol sydd yn cael eu cynnal yn ystod misoedd y gwanwyn cyn yr Eisteddfod.

Awst
08 awst eisteddfod shutterstock 1148093048 compressed

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Gŵyl gelfyddydol yw’r Eisteddfod Genedlaethol, a gynhelir drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n rhoi llwyfan cenedlaethol i gerddoriaeth, dawns, celf, perfformiadau gwreiddiol, gweithgareddau teuluol a chystadlaethau o bob math, mewn awyrgylch groesawgar, hwyliog ac unigryw. Mae’n parhau am gyfnod o 8 diwrnod llawn ar ddechrau Awst. Mae’n newid ei lleoliad bob blwyddyn ac yn ymweld â’r gogledd a’r de bob yn ail.

Mae’r iaith yn greiddiol a phwysig i’r Eisteddfod, ond mae’r Brifwyl yn llawer mwy na digwyddiad Cymraeg – mae’n cynnig rhywbeth i bawb o bob oed. Does dim rhaid siarad Cymraeg i fwynhau’r hyn sydd gan yr Eisteddfod i’w chynnig, ac mae’r Maes yn llawn o weithgareddau a digwyddiadau i’w mwynhau.

Medi 16
09 medi 16 owain glyndwr shutterstock 634022021 compressed

Diwrnod Owain Glyndwr

Owain Glyndŵr oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Fe ddethlir ar 16 Medi am fod Owain Glyndŵr wedi cael ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru ar 16 Medi 1400.

Medi 30
F6 B8 C0 A5 1 C4 B 4141 AAFF C7218287 E215

Diwrnod Waldo

Mae Medi 30 yn ddiwrnod i gofio Waldo Williams - un o feirdd mwyaf Cymru. Cafodd ei eni yn nhref Hwlffordd ar Fedi 30 1904.

Hydref 11
T Llew Jones is this from the author ask permission

Diwrnod T.Llew Jones

Un o’r awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd a chynhyrchiol yn y Gymraeg.

Hydref 15
10 hydref 15 SWCI RHO GYNNIG ARNI 1017x1024

Diwrnod Shwmae

Diwrnod i hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda shwmae, su’mae neu shwdi! Nod y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr rhugl, dysgwyr neu os ydych yn swil am eich Cymraeg.

Rhagfyr 11
Llywelyn the Last at Cardiff City Hall PD Wiki

Diwrnod Llywelyn ein Llyw Olaf

Ar Ragfyr 11eg yn 1282 fe laddwyd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Olaf Cymru, yng Nghilmeri. Cyfeirir ato fel Llywelyn ein Llyw Olaf.