Canolfan Iaith Bro Gwaun
Lleolir Canolfan Iaith Bro Gwaun yn Ysgol Uwchradd Bro Gwaun yn nhref arfordirol Abergwaun. Mae’r ganolfan yn gwasanaethu’r ysgolion cynradd yn nheulu ysgolion y clwstwr. Agorwyd y Ganolfan ym mis Medi 2001 fel rhan o Brosiect Abergwaun. Mae’r ganolfan yn cynorthwyo newydd ddyfodiaid di-Gymraeg yr ardal i ymgynefino gyda'r Gymraeg yn gyflym gan sicrhau mynediad lawn iddynt i addysg cyfrwng Cymraeg. Yn y ganolfan, mewn awyrgylch gyfeillgar a chefnogol, mae plant o oedran a gallu ieithyddol tebyg, o lawer o ysgolion cynradd lleol, yn dod at ei gilydd ar gyfer cyrsiau Cymraeg.
CANOLFAN IAITH BRO GWAUN
Ysgol Bro Gwaun
Heol Dyfed
Abergwaun
Sir Benfro
SA65 9DT
Rhif Ffôn: (01348) 874619 / (01348)872268
E-bost: [email protected]
Ysgolion sy’n mynychu Canolfan Iaith Bro Gwaun
- Ysgol Bro Ingli
- Ysgol Llanychllwydog
- Ysgol Casmael
- Ysgol Casblaidd
- Ysgol Wdig
- Ysgol Glannau Gwaun
- Ysgol Croesgoch
- Ysgol Ger y Llan
Cyrsiau Canolfan Iaith Bro Gwaun
Mae darpariaeth y Ganolfan Iaith yn cynnwys y cyrsiau canlynol:
Cwrs Hwyrddyfodiaid i blant cynradd
Ffocws y cwrs deuddydd hwn yn bennaf yw i gynnig ymyrraeth ddwys i’r disgyblion trwy ddulliau trochi iaith gyda’r elfen o hybu sgiliau llafaredd yn flaenoriaeth. Yn ystod y flwyddyn gyntaf hon caiff y disgyblion eu cyflwyno i eirfa a phatrymau sy’n allweddol i’w galluogi i gyfathrebu’n hyderus ar lafar ac i gael mynediad lawn at eu haddysg yn y ffrwd Gymraeg.
Cwrs Dilyniant i blant cynradd
Yn ystod ail flwyddyn y cwrs, ar y cwrs undydd yma, adeiladir ar y sylfaen o sgiliau mae’r disgyblion yn eu caffael yn y flwyddyn gyntaf gan dalu sylw cynyddol i hybu sgiliau llythrennedd ymhellach trwy ddarllen ehangach ac ysgrifennu estynedig.
Bwrlwm Bro Gwaun
Yn ogystal â chyrsiau’r Hwyrddyfodiaid, cynhelir cyrsiau trosglwyddo ‘Bwrlwm Bro Gwaun' ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 a fydd yn parhau gyda'u haddysg yn Ysgol Bro Gwaun yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4.
Bydd y cwrs ar gyfer y disgyblion sydd wedi derbyn lefel Mamiaith yn yr ysgol Gynradd yn canolbwyntio ar ymdrochi ymhellach yn yr iaith Gymraeg a'u paratoi ar gyfer eu dosbarthiadau ym Mlwyddyn 7. Bydd y disgyblion hynny yn cael eu rhannu i ddosbarthiadau Cymraeg, Cymraeg Sylfaenol a Chymraeg gyda chymorth. Byddant hwy yn parhau i ddilyn pynciau megis Cymraeg fel pwnc, y Dyniaethau, Celfyddydau Mynegiannol, ABCh ac Ymarfer Corff trwy gyfrwng y Gymraeg.
Pontio ysgolion cyfrwng Saesneg
Cynhelir cyrsiau pontio Cymraeg llai dwys ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 na fydd yn dilyn pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg
Cyn-ddisgyblion Canolfan Iaith Bro Gwaun
Dewch i gwrdd â rhai o gyn-ddisgyblion y ganolfan a chlywed am eu profiad.
Dylan
Dechreuais i gael gwersi gyda Chanolfan Iaith Bro Gwaun a Mrs Bellis pan o'n i ym mlwyddyn 5. Hyd at hynny prin iawn oedd fy Nghymraeg ac roeddwn i'n anghyfarwydd iawn â'r iaith. Gwnaeth y gwersi yma fy ngalluogi i allu cynnal sgwrs yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a rhoi'r sylfeini i mi fynd ati i gyflawni'n uwch pan gyrhaeddais fy arholiadau TGAU. Mae hyn wedi fy ngalluogi i gyrraedd lle ydw i nawr, yn gweithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg lle dwi'n defnyddio'r sgiliau a ddysgais yn ystod y sesiynau yn ddyddiol.
Efa
Roedd mynychu'r Ganolfan Iaith ym Mro Gwaun gyda Mrs Bellis wedi rhoi hyder enfawr i fi wrth ddefnyddio fy Nghymraeg. Cawsom amser gwych yn actio, canu, mynd ar deithiau natur, ffilmio, recordio a llawer mwy. Rwyf nawr yn y Brifysgol ym Mryste a ches i Ysgoloriaeth i fynd i Ysgol Breifat Rygbi i astudio lefel A. Er nad wyf yn defnyddio fy Nghymraeg bob dydd ar hyn o bryd roedd y profiadau yn y Ganolfan iaith wedi rhoi hyder i fi ac wedi agor drysau pellach petaswn yn dod nol i Gymru i weithio.
Yolanta
Symudais i Gymru pan oeddwn yn saith oed. Rwy'n wreiddiol o Latvia. Doeddwn i ddim yn medru siarad Saesneg na Chymraeg. Yr hyn dwi'n cofio ydy dysgu sut i ddweud ac actio storiau ac yna mynd ati i ysgrifennu'r straeon yn Gymraeg. Ces i ganlyniadau gwych yn fy arholiadau a byddaf yn cofio'r profiadau hynny yn y Ganolfan am byth. Diolch yn fawr am y cyfle ac am y croeso.
Dolenni defnyddiol
Gwefan Canolfan Iaith Bro Gwaun - https://www.canolfaniaithbrogw...
Gwefan Ysgol Bro Gwaun - https://ysgolbrogwaun.com/
Fideo rhithiol Ysgol Bro Gwaun - https://youtu.be/PuREu2RQ5w0