Cwestiynau Cyffredin
Sut mae’n gweithio?
Mae’r disgyblion rhwng 7 -11 oed yn dechrau yn yr ysgol cyfrwng Cymraeg o’u dewis ac yna’n mynychu’r ganolfan yn rhan amser am ddwy flynedd – dau ddiwrnod am y flwyddyn gyntaf a diwrnod am yr ail flwyddyn. Mae disgyblion yn dilyn cwrs wedi’i strwythuro’n ofalus ac yn dod yn rhugl ar lafar yn ogystal â meithrin sgiliau darllen ac ysgrifennu.
Sut ydych chi’n delio a’r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd?
Mae’r canolfannau yn cael eu staffio gan athrawon cymwysedig, profiadol. Er mai pwyslais y cwrs yw dysgu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg bydd eich plentyn hefyd yn profi agweddau eraill o’r cwricwlwm wrth addysgu’r Gymraeg gan ddefnyddio ystod o ddulliau addysgu o fewn ymagwedd thematig.
A yw’r disgyblion yn cael cinio ysgol?
Mae cinio ysgol ar gael i bawb ar bob safle. Gall disgyblion brynu cinio yn y ffreutur os dymunant neu ddod â brechdanau. Cysylltwch â’ch Canolfan Iaith i holi am brisiau. Bydd cinio am ddim os ydy’ch plentyn/plant yn deilwng ohono.
A oes trafnidiaeth ar gael?
Darperir cludiant yn rhad ac am ddim gan yr Awdurdod Addysg. Bydd staff y Canolfannau Iaith yn gwneud trefniadau pan fydd eich plentyn yn dechrau yn y Ganolfan Iaith.
A oes cost i fynychu’r Ganolfan Iaith?
Nac oes. Ariennir y Ganolfan gan Wasanaethau Addysg Sir Benfro – nid oes unrhyw gost i chi.
Beth os nad wyf fi’n siarad Cymraeg?
Peidiwch â phoeni. Erbyn hyn, mae cannoedd o blant wedi manteisio ar ein Canolfannau Iaith yn Sir Benfro gyda'r mwyafrif yn dod o gefndir di-Gymraeg. Byddwch yn bositif ac yn gefnogol a chefnogwch eich plentyn i siarad Cymraeg gyda ffrindiau a chymdogion. Byddwch hefyd yn cael cymorth da gan eich ysgol a’r Ganolfan. Maen nhw’n cyfathrebu gyda rhieni yn y ddwy iaith ac mae digonedd o gymorth i helpu gyda gwaith ysgol.
A fydd dysgu Cymraeg yn effeithio ar Saesneg fy mhlentyn?
Na fydd! A dweud y gwir, gallai hyd yn oed helpu Saesneg eich plentyn. Trwy ddysgu dwy iaith ar yr un pryd, daw plant yn fwy ymwybodol sut y mae ieithoedd yn gweithio’n gyffredinol. Mae canlyniadau diweddar yn awgrymu bod plant sy’n cael addysg ddwyieithog yn gwneud yn well mewn pynciau ar draws y cwricwlwm – gan gynnwys Saesneg! Dengys ymchwil fod gallu siarad a defnyddio dwy iaith yn gwella gallu plentyn i ddefnyddio a dysgu iaith yn gyffredinol.
A ddylwn i ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â’m plentyn?
Mae rhai rhieni, ar ôl dewis ysgol cyfrwng Cymraeg i’w plentyn, yn penderfynu dysgu Cymraeg hefyd. Mae’n gyfle gwych i ddysgu gyda’ch gilydd, i ymarfer eich sgiliau iaith ar eich gilydd a threulio amser gwerth chweil gyda’ch gilydd. Mae gan Dysgu Cymraeg Sir Benfro amrywiaeth o gyrsiau sy’n addas i ddysgwyr o bob lefel.