Cyfleoedd

Mae llawer o sefydliadau yn Sir Benfro yn cynnig gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg i’ch plentyn ymarfer a mwynhau defnyddio’r Gymraeg.

Mae rhai sefydliadau hefyd yn darparu cyfleoedd dysgu i deuluoedd, dysgwyr di-Gymraeg, neu rai sy’n ansicr wrth ddefnyddio’r iaith er mwyn codi eu hyder.

MISB

Menter Iaith Sir Benfro

Nod Menter Iaith Sir Benfro yw hybu'r Gymraeg o fewn y sir gan drefnu amryw o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion. Cadwch lygad ar dudalen Facebook y Fenter am weithgareddau.

Facebook - https://www.facebook.com/menteriaithsirbenfro/

Urdd

Mae’r Urdd yn darparu ystod eang o gyfleoedd i ddysgwyr a’r gymuned ehangach i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol i hybu ymdeimlad o berthyn a’r iaith Gymraeg. Mae’r gweithgareddau’n amrywio o’r Eisteddfod flynyddol i weithgareddau chwaraeon a chyrsiau preswyl.

https://www.urdd.cymru/en


Urdd
Mudiad meithrin

Mudiad Meithrin

Mae Mudiad Meithrin yn fudiad gwirfoddol sy'n arbenigo mewn darparu addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys cylchoedd meithrin. Ei nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru elwa ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.

https://meithrin.cymru/?lang=en

Bydd hefyd clybiau a sefydliadau yn eich ardal leol sy’n gallu darparu ystod o gyfleoedd yn Gymraeg ar gyfer grwpiau oedran gwahanol. Mynnwch sgwrs gyda staff y Ganolfan Iaith a fydd yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi am weithgareddau y gall eich plentyn fwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg.