Sialens Newydd! Dysgwch Gymraeg!​

Hoffech chi i’ch plentyn gael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg? Dyw hi ddim yn rhy hwyr. Os ydych wedi symud i’r ardal yn ddiweddar neu os hoffech i’ch plentyn drosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg, gall eich plentyn gael cymorth gan ein Canolfannau Iaith.​

Map of centres in Pembrokeshire

Mae’r Gymraeg yn agor drysau…​

Yn Sir Benfro mae gennym dri Chanolfan Iaith bwrpasol ar gyfer plant cynradd sydd wedi symud i’r ardal yn ddiweddar neu a hoffai symud i addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’r canolfannau’n darparu cymorth i hwyrddyfodiaid i’r Gymraeg fel bod eu caffaeliad o’r iaith yn eu galluogi i gael mynediad llawn i addysg cyfrwng Cymraeg a chymryd rhan ynddi. Lleolir ein Canolfannau Iaith yn ysgolion uwchradd y clystyrau, un yn Ysgol Bro Gwaun yn Abergwaun, un yn Ysgol Bro Preseli yng Nghrymych, ac un yn Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd. Cânt eu staffio gan athro cymwysedig sydd â set sgiliau penodol fel ieithyddion ac sy’n fodelau rôl ieithyddol ragorol. ​

Pa ddarpariaeth mae'r Ganolfan Iaith yn ei chynnig?

Mae darpariaeth y Ganolfan Iaith yn cynnwys dau gwrs i ddisgyblion:

Cwrs Hwyrddyfodiaid

(Dau ddiwrnod yr wythnos)​

Bydd disgyblion sy’n gwbl newydd i addysg Gymraeg yn dechrau eu taith trwy ddilyn y cwrs hwyrddyfodiaid. Ffocws y cwrs deuddydd hwn yn bennaf yw i gynnig ymyrraeth ddwys i’r disgyblion trwy ddulliau trochi iaith gyda’r elfen o hybu sgiliau llafaredd yn flaenoriaeth. Yn ystod y flwyddyn gyntaf hon caiff y disgyblion eu cyflwyno i eirfa a phatrymau sy’n allweddol i’w galluogi i gyfathrebu’n hyderus ar lafar ac i gael mynediad lawn at eu haddysg yn y ffrwd Gymraeg.

Cwrs Dilyniant​

(Un diwrnod yr wythnos)​

Yn ystod ail flwyddyn y cwrs, adeiladir ar y sylfaen o sgiliau mae’r disgyblion yn eu caffael yn y flwyddyn gyntaf gan dalu sylw cynyddol i hybu sgiliau llythrennedd ymhellach trwy ddarllen ehangach ac ysgrifennu estynedig.​

Mae staff yn defnyddio ystod eang o ddulliau addysgu i gefnogi datblygiad sgiliau llafaredd, darllen ac ysgrifennu disgyblion. Mae staff y Ganolfan Iaith hefyd yn cyfathrebu’n rheolaidd gydag ysgolion yr hwyrddyfodiaid a’u rhieni i drafod cynnydd y disgyblion.

Beth yw manteision dysgu Cymraeg i fy mhlentyn?

  • Mae ymchwil yn dangos bod plant sy’n deall mwy nag un iaith yn gallu meddwl yn fwy hyblyg a chreadigol.​
  • Mae plant dwyieithog yn aml yn datblygu sgiliau eraill yn gyflymach na phlant sydd ond yn siarad un iaith ac maent yn aml yn gwneud yn well yn yr ysgol ac mewn arholiadau.​
  • Mae manteision economaidd pendant yn nes ymlaen pan fydd eich plentyn yn chwilio am swydd, gan fod mwy a mwy o swyddi yng Nghymru yn gofyn am sgiliau dwyieithog.​
  • Gall helpu i adeiladu pontydd rhwng cenedlaethau, os yw neiniau a theidiau a pherthnasau yn siarad Cymraeg.​
  • Mae’n rhoi’r cyfle i brofi dau ddiwylliant gwahanol, dau fyd o brofiad. Gall helpu i roi ymdeimlad o berthyn i bobl. Mae dwy ran o dair o blant y byd yn ddwyieithog. Ydych chi eisiau i’ch plentyn fod yn un o'r mwyafrif?

Cliciwch yma i ddysgu mwy am addysg cyfrwng Cymraeg​

Beth mae’r rhieni yn ei ddweud?

“Mae ein profiad ni wedi bod yn gadarnhaol gan ein bod wedi ein syfrdanu gan ba mor gyflym y mae gafael ein merch ar y Gymraeg wedi dod ymlaen mewn llai na blwyddyn. Nid yn unig hynny, mae hi wedi ymgartrefu yn ei hysgol newydd yn well nag y gallem erioed ei ddisgwyl, ac mae hynny oherwydd natur gefnogol, gyfeillgar yr ysgol lle mae pob un o’r plant yn cael eu parchu.” - Maria

"Trosglwyddodd ein plant i ysgol cyfrwng Cymraeg ddwy flynedd yn ôl a gyda diolch i'r Ganolfan Iaith a'r addysgu rhagorol, maent bellach yn gwbl gyfarwydd yn y Gymraeg. Mae'r profiad cyfan wedi bod yn un hollol gadarnhaol, yn enwedig gan fod eu dealltwriaeth o'r Gymraeg yn gyfyngedig iawn pan ddechreuon nhw yn yr ysgol ". - Andrew a Mandy

Character poses 02 CAER ELEN
  • Mae pob disgybl yn dechrau’r daith ar yr un lefel – maent oll yn newydd- ddyfodiaid i’r iaith
  • Cyfle i ddysgu’r iaith mewn awyrgylch gyfeillgar a symbylus
  • Cyfle i fanteisio ar adnoddau a chyfleusterau gwych yr ysgolion uwchradd
  • Mae niferoedd dosbarthiadau yn annhebygol o fod yn fwy na 14
  • Bydd yn hwyluso’r broses bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd
  • Mae un athro, un pwnc yn hyrwyddo dysgu cyflym
  • Ariennir y Ganolfan gan Wasanaethau Addysg Sir Benfro – nid oes unrhyw gost i chi
Character poses 06 BRO GWAUN

Dewch i ddysgu mwy am ein Canolfannau Iaith

Mae Canolfannau Iaith Sir Benfro yn chwarae rhan allweddol i hyrwyddo’r Gymraeg ac yn cymryd rhan mewn cynnal diwylliant a hunaniaeth Sir Benfro. Bydd mynychu Canolfan Iaith yn gosod sylfaen gref i’ch plentyn yn y Gymraeg er mwyn manteisio'n llawn ar brofiadau a manteision addysg ddwyieithog.

Dewiswch eich Canolfan Iaith leol i ddysgu mwy ac i gyrchu adnoddau ategol.